Ysgolion Iach

Mae ein hysgol yn falch iawn i fod yn rhan o gynllun Ysgolion Iach Sir Gaerfyrddin. Mae’r statws hwn yn bwysig iawn i ni yn Ysgol Pontyberem gan ein bod yn ymfalchïo mewn pwysigrwydd cael ysgol iach.

Ar hyn o bryd ein nod yw ennill y wobr ansawdd genedlaethol Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru. Mae’n gynllun gwirfoddol ar gyfer ysgolion sy’n cydnabod ac yn annog cyfraniad at gefnogi iechyd a lles disgyblion. ‘Mae’n dathlu’r gweithredoedd cadarnhaol y mae ysgolion yn eu cyflawni o ran bwyta’n iach a gweithgaredd corfforol a’i nod yw helpu ysgolion i nodi camau nesaf defnyddiol yn eu darpariaeth.’

Er mwyn ennill y Wobr Ansawdd Genedlaethol mae’n rhaid i ni dystiolaethu’r 7 testun iechyd canlynol i sicrhau ein bod yn darparu’r addysg orau i’n dysgwyr.

Dyma’r 7 testun wrth ystyried y wobr ansawdd genedlaethol Ysgolion Iach:

• Bwyd a ffitrwydd

• Iechyd meddwl ac emosiynol a lles

• Datblygiad personol a pherthnasoedd

• Defnyddio a chamddefnyddio sylweddau

• Hylendid

• Yr Amgylchedd

• Diogelwch

https://www.supportline.org.uk/problems/alcohol/

https://www.supportline.org.uk/problems/drugs/

https://www.nhs.uk/live-well/healthy-body/drug-addiction-getting-help/

https://www.wales.nhs.uk/healthtopics/lifestyles/drugmisuse

https://www.nhs.uk/live-well/alcohol-support/

https://www.sustrans.org.uk/our-blog/projects/uk-wide/schools/sustrans-big-walk-and-wheel/stroliwch-a-roliwch-sustrans

https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/cynllun-gwen/gwybodaeth-i-rieni-a-gofalwyr/