Diogelwch

DIOGELWCH YN YSTOD AMSER YSGOL

Sicrhawn fod ein hysgol yn fangre diogel i’n disgyblion a’n staff yn ystod amser ysgol.  Bydd pob drws allanol yr adeilad dan glo yn ychwanegol i gatiau’r ysgol yn ystod y diwrnod.

Er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch pob unigolyn tra yn yr adeilad disgwylir i bawb ddilyn rheolau’r ysgol.

Nid ydym yn caniatáu ysmygu ar safle’r ysgol ar unrhyw adeg.  Gofynnir i ymwelwyr barcio ym maes parcio’r ysgol.

GOFAL BUGEILIOL

Mae’r athrawesau dosbarth yn gyfrifol am gadw golwg ar unrhyw broblemau corfforol neu emosiynol a gwyd ymhlith disgyblion unigol gan geisio eu datrys.

Cedwir cysylltiad agos rhwng y prifathro a’r staff ymhob achos. GOFYNNIR I’R RHIENI I GYSYLLTU Â’R PENNAETH AR UNWAITH OS OES PROBLEM GAN EU PLENTYN.

Cymerir pob gofal i sicrhau diogelwch y plant ond os fydd y plentyn yn dost neu wedi cael damwain yna hysbysir y rhieni cyn gynted ag sydd bosibl.

Felly mae’n bwysig bod gennym o leiaf 2 rif ffôn ble gallwn gysylltu â rhiant neu deulu/perthnasau/ffrindiau agos.