Oriau's Ysgol

Gofynnwn i bob rhiant i ofalu bod ei blentyn/blant yn cyrraedd yr ysgol erbyn amser dechrau. Mae’n bwysig bod plant yn cyrraedd yr ysgol yn brydlon erbyn i’r gloch ganu am 8.50a.m. Mae’n arferiad gwael os yw plentyn yn cyrraedd yn hwyr ac y mae’n gallu tarfu ar rediad y dosbarth. Os yw plentyn yn cyrraedd y dosbarth yn hwyr yn aml, mae’n anodd iddo/iddi ddal i fyny a gwaith y cwricwlwm.

Os yw plentyn yn colli llawer o ysgol neu yn cyrraedd yn hwyr yn aml yna byddwn yn cysylltu â’r rhieni yn gyntaf, ac yna gyda’r Swyddog Addysg Lles.

Ni all yr ysgol dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am blant sy’n cyrraedd yr iard cyn 8.40a.m. Mae hyn yn bwysig i’w gofio yn enwedig ar ddiwrnod gwlyb, neu yn ystod diwrnodau oer y gaeaf.

BABANOD:
8.50y.b – 10.35 y.b
EGWYL
10.50y.b – 11.50y.b
CINIO
1.00y.p –  2.10y.p
EGWYL 
2.20y.p- 3.15y.p
IAU:
8.50y.b – 10.35y.b
EGWYL
10.50y.b – 12y.p
CINIO
1.00y.p –  2.10y.p
EGWYL
2.20y.p- 3.20y.p

GWYLIAU

Gofynnwn i rieni wneud pob ymdrech i sicrhau bod eu plant yn mynychu’r ysgol yn gyson. Hefyd, er lles y plentyn/plant gofynnwn i rieni gymryd eu gwyliau yn ystod gwyliau’r ysgol.

Gofynnir i rieni ysgrifennu nodyn neu ffonio os bydd y plentyn yn absennol neu os bydd angen i’r plentyn adael yr ysgol yn gynnar.

AMSER CHWARAE/CINIO

Yn ystod egwyl mae’r athrawon yn eu tro yn arolygu’r plant yn chwarae ar yr iard.

Os bydd yn bwrw glaw bydd y plant yn aros yn eu dosbarthiadau a byddant yn cael eu goruchwylio yno. Weithiau bydd y plant lleiaf yn gwylio fideo ar y teledu.

Amser cinio arolygir y plant gan bum cynorthwywraig sy’n atebol i’r prifathro. Dylai ymddygiad plant tuag at yr aelodau yma o staff yr ysgol fod yr un mor gwrtais a pharchus ag yw tuag at yr athrawon.