School Meals

Darperir cinio canol dydd sy’n cael ei baratoi yn yr ysgol. Dylid talu am y prydiau ar Ddydd Llun gan roi’r arian mewn amlen neu bwrs ag enw’r plentyn arno.

Pris cinio yw £2.40 y dydd neu £12.00 yr wythnos. Sieciau yn daladwy i Gyngor Sir Gaerfyrddin.

Brechdanau

Gall plant ddod â brechdanau i ginio a’u bwyta yn y ffreutur.

BRECWAST AM DDIM

Mae’r ysgol yn darparu brecwast am ddim i unrhyw blentyn sy’n dymuno ei gael. Cynllun yw hwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella iechyd plant a’u gallu i ganolbwyntio yn y dosbarth.

Darperir y brecwast bob bore rhwng 8.10y.b hyd 8.40y.b. yn ffreutur yr ysgol.

CINIO AM DDIM

Mae rhai teuluoedd yn gallu hawlio cinio am ddim. Os am fanylion pellach cysylltwch â’r Swyddfa Addysg yng Nghaerfyrddin neu Mrs. Jo Evans – clerc arian cinio yn yr ysgol.

LLAETH AM DDIM

Mae’r awdurdod yn gweithredu cynllun o roi llaeth am ddim i blant dan bump a Chyfnod Sylfaen.