Derbyn 2

ReesJ402@hwbcymru.net

Ein thema y tymor yma yw Hei Mr Urdd. Ein sbardun fydd, ymweliad wrth Mr Urdd a llythyr am help i drefnu parti. Ein bwriad erbyn diwedd y tymor fydd i drefnu a chynnal parti i Mr Urdd. Byddwn yn dilyn llais y disgybl wrth gynllunio’r gweithgareddau yn arwain at y parti. Fe fydd y ddarpariaeth yn cynnwys amrywiaeth o brofiadau trawsgwricwlaidd yn y dosbarth ac yn yr awyr agored.

Mi fyddwn yn dathlu sawl digwyddiad yn ystod y tymor gan gynnwys; diwrnod Santes Dwynwen, dydd Mawrth Ynyd, Dydd Gwyl Dewi, Diwrnod y Llyfr, Pasg ayyb.

O fewn ein gwersi Mathemateg byddwn yn edrych ar rif, arian, siâp, patrwm, mesur a safle.

 Fel rhan o’n ffocws ieithyddol, byddwn yn datblygu patrymau iaith wrth ddilyn rhaglen Cynllun Clonc, ac yn adnabod, adeiladu a thorri synau wrth ddilyn rhaglen Tric a Chlic.  

Bydd ymarfer corff ar Ddydd Gwener. A wnewch chi ddanfon gwisg ymarfer corff eich plentyn (siorts/jogyrs a chrys t) mewn bag gan sicrhau bod enw ar bob dilledyn.

Dyma ap Tric a Chlic (am ddim) i chi lawrlwytho a defnyddio adref.

Dyma linc i wefan Hwb. Bydd pob plentyn yn derbyn cyfrinair i fynd adref. Rydyn yn defnyddio Just 2 Easy – JIT i ddysgu sgiliau codio, creu lluniau, animeiddio ayyb.