Blwyddyn 4

EdwardsR456@hwbcymru.net

Yn ystod tymor y Gwanwyn byddwn yn canolbwyntio ar y Cwricwlwm Cymreig a’r Celfyddydau Mynegiannol wrth ddilyn thema ‘Hei Mr Urdd.’ Caiff y plant gyfle i ddysgu am Santes Dwynwen a datblygu eu sgiliau creadigol wrth ddylunio carden ddigidol. Byddwn yn tynnu sylw’r disgyblion at awduron, idiomau a bandiau Cymreig yn wythnosol ac yn dathlu Dydd Miwsig Cymru. Edrychwn ymlaen at gystadlu yn ein Heisteddfod ysgol. Bydd y disgyblion yn gweithio ar brosiect dylunio a thechnoleg yr Urdd er mwyn dylunio a chreu lliain golchi llestri addurnol gan ddefnyddio’r dechneg argraffu. Ysbrydoliaeth y prosiect fydd y thema ‘cynefin.’ Yn ein gwersi gwyddoniaeth byddwn yn astudio ‘Golau’ ac yn herio’r disgyblion drwy gwblhau ymchwiliad gwyddonol. Yn ein gwersi iaith byddwn yn ysgrifennu stori, dwyn i gof, llythyr personol ac erthygl papur newydd. Yn ein gwersi mathemateg byddwn yn ffocysu ar adio a thynnu, gwaith cwmpawd, siâp a mesur.

Gofynnwn yn garedig i chi wrando ar eich plentyn yn darllen gan gofio trafod cynnwys y testun.

Dyma linciau i wefan HWB a Sumdog.