Erasmus+

Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon. Mae’n rhedeg am saith mlynedd, o 2014 tan 2020, ac estynnir gwahoddiad i sefydliadau ymgeisio am gyllid bob blwyddyn er mwyn cyflawni gweithgareddau creadigol a gwerth chweil.

Nod Erasmus+ yw moderneiddio addysg, hyfforddiant a gwaith ieuenctid ar draws Ewrop. Mae’n agored i sefydliadau addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon ar draws pob sector dysgu gydol oes gan gynnwys addysg mewn ysgolion, addysg bellach ac uwch, addysg i oedolion a’r sector ieuenctid.