Cwricwlwm i Gymru

Ein gweledigaeth

Mae ein hysgol yn ysgol glos a chyfeillgar, ac fel ysgol rydym yn ymfalchio yn yr ethos ofalgar a chefnogol sy’n bodoli yma,  lle bydd pob plentyn yn gael y cyfle i gyflawni i’w botensial llawn a datblygu’n aelod gwerthfawr o’r gymdeithas. Hyrwyddwn ethos bositif ac awyrgylch cyfeillgar wrth ymddiried, parchu a chyd-weithredu gyda’n gilydd. Ein nôd yw i sicrhau profiadau pwrpasol sydd yn herio pawb i lwyddo.  

Ein gwerthoedd:  

  • Lles, parch a gofal 
  • Empathi a Chyfeillgarwch 
  • Dyfalbarhad a gwytnwch 
  • Hapusrwydd a Mwynhad 
  • Cymru a Chymreictod 
  • Cymuned a Chynefin 

Ein cwricwlwm cynhwysol

Bydd ein cwricwlwm yn codi dyheadau pob dysgwr. Fel ysgol rydym wedi ystyried sut y bydd pob dysgwr yn cael ei gefnogi i wireddu’r pedwar diben ac i symud ymlaen. Rydym wedi ystyried ein darpariaeth ADY a sut y byddwn yn bodloni anghenion gwahanol grwpiau o ddysgwyr.

Y pedwar diben

Y pedwar diben yw’r man cychwyn a’r dyhead ar gyfer  ein cynllun cwricwlwm ysgol.

 Nod ein hysgol yw cefnogi ein dysgwyr i ddod :

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig

Bydd ein cwricwlwm yn darparu cyfleoedd a phrofiadau i ddatblygu’r cysyniadau, gwybodaeth a sgiliau allweddol fel y’u disgrifir yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ac yn unol â’r Cod Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig.

Meysydd Dysgu a Phrofiad

Bydd ein cwricwlwm yn darparu profiadau dysgu drwy’r 6 Maes Dysgu a Phrofiad o:

  1. Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  2. Celfyddydau Mynegiannol
  3. Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  4. Dyniaethau
  5. Mathemateg a Rhifedd
  6. Iechyd a Lles

Dysgu, Dilyniant ac Asesu

Bydd ein cwricwlwm yn cefnogi dysgu trwy ddylunio cyfleoedd dysgu sy’n tynnu ar yr egwyddorion addysgegol. Mae ein cwricwlwm, a ategir gan addysgu a dysgu effeithiol, yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd ystyrlon. Dros amser bydd ein dysgwyr yn datblygu a gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth. Mae ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar ddeall beth mae’n ei olygu i wneud cynnydd mewn Maes neu ddisgyblaeth benodol a sut y dylai dysgwyr ddyfnhau ac ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, eu sgiliau a’u galluoedd, a’u priodoleddau a’u tueddiadau, ac mae’n cael ei lywio gan y Cod Cynnydd. Mae hyn yn ei dro yn cefnogi ein hymagwedd at asesu, a’i ddiben yw llywio cynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Bydd asesu yn cael ei wreiddio fel rhan gynhenid ​​o ddysgu ac addysgu. Bydd pob dysgwr yn cael ei asesu ar fynediad i’r ysgol.

Cymraeg a Saesneg

Mae ysgolion sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg yn defnyddio’r Gymraeg i gyflwyno’r cwricwlwm. Cyflwynir gwersi Saesneg ym Mlwyddyn 3.

Sgiliau trawsgwricwlaidd

Bydd ein cwricwlwm yn datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Bydd ein cwricwlwm yn galluogi dysgwyr i ddatblygu cymhwysedd a gallu yn y sgiliau hyn a’u hymestyn a’u cymhwyso ar draws pob Maes. Bydd dysgwyr yn cael cyfleoedd ar draws y cwricwlwm i:

  • datblygu sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu
  • gallu defnyddio rhifau a datrys problemau mewn sefyllfaoedd go iawn
  • bod yn ddefnyddwyr hyderus o ystod o dechnolegau i’w helpu i weithredu a chyfathrebu’n effeithiol a gwneud synnwyr o’r byd

CCUHP – Hawliau Plant

Bydd ein hysgol yn hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Ran 1 o CCUHP, ac o CCUHP, ymhlith y rhai sy’n darparu addysgu a dysgu.

CWRE : profiadau sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd a gwaith

Bydd ein cwricwlwm yn ymgorffori gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith ar gyfer ein holl ddysgwyr.

Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ACRh

Mae ein cwricwlwm ysgol yn cofleidio’r arweiniad yn y Cod ACRh. Bydd gan ein darpariaeth Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb rôl gadarnhaol a grymusol yn addysg ein dysgwyr a bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth eu cefnogi i wireddu’r pedwar diben fel rhan o ymagwedd ysgol gyfan. Sylfaen ACRh yw helpu dysgwyr i ffurfio a chynnal ystod o berthnasoedd, i gyd yn seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a pharch. Mae’r perthnasoedd hyn yn hanfodol i ddatblygiad lles emosiynol, gwydnwch ac empathi.

CGM : Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Mae crefydd, gwerthoedd a moeseg (CGM) yn ofyniad statudol o’r Cwricwlwm i Gymru ac mae’n orfodol i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed. Nid oes hawl gan riant i wneud cais i dynnu plentyn o wersi CGM yn y Cwricwlwm i Gymru

Gan fod CGM yn bwnc a bennir yn lleol, mae’r maes llafur cytûn yn nodi’r hyn y dylid ei addysgu mewn CGM o fewn yr awdurdod lleol a bydd ein cwricwlwm yn adlewyrchu’r canllawiau hyn.

Adolygu a mireinio

Bydd ein cwricwlwm ysgol yn cael ei adolygu’n barhaus er mwyn ymateb i allbynnau ymholi proffesiynol, anghenion cyfnewidiol dysgwyr a chyd-destunau ac anghenion cymdeithasol. Bydd yr adolygiadau’n ystyried barn rhanddeiliaid ac yn cael eu cymeradwyo gan y Corff Llywodraethol. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’n cwricwlwm ac yn adolygu’r crynodeb os gwneir newidiadau i’r cwricwlwm yn ystod y broses adolygu.

https://llyw.cymru/mae-addysg-yn-newid

https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/