E-Ddiogelwch

Mae’n hanfodol i addysgu ein disgyblion am ddiogelwch ar-lein. Mae ein disgyblion yn aml yn cymryd rhan mewn gwersi lle mae materion diogelwch ar-lein yn cael eu hamlygu fel y gallant wneud penderfyniadau am gadw eu hunain yn ddiogel tra ar-lein. Mae ein Swyddog Cyswllt yr Heddlu hefyd yn ymweld â’r ysgol yn aml i arwain gweithdai E-ddiogelwch gyda disgyblion yn CA2.

Manteisiwch ar y cyfle i ymweld â’r dolenni isod i ddod o hyd i wybodaeth a gweithgareddau gyflawn, a fydd yn helpu i wella ymwybyddiaeth o e-Ddiogelwch.

Mae rhaglen School Beat Cymru (sy’n cael ei chyflwyno gan swyddogion cyswllt ysgolion yr heddlu) hefyd yn ymdrin â diogelwch ar y rhyngrwyd ac rydym wedi cysylltu â nhw ynghylch tueddiadau penodol a phryderon sy’n dod i’r amlwg. Mae nyrsys iechyd yr ysgol hefyd yn cefnogi ysgolion a disgyblion sydd â phroblemau hunan-niweidio ac mae ganddynt linell gymorth CHATT lle gall pobl ifanc ffonio neu anfon neges destun i drafod materion. Mae gwasanaeth cwnsela Area 43 hefyd wedi ymestyn ei wasanaethau oherwydd y cyfyngiadau symud ac wedi gweithio gyda rhai plant cynradd y tymor hwn ynghylch materion llesiant.Yn ogystal â hyn, rydym wedi rhannu nifer o adnoddau â’n hysgolion yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Mae hyn yn cynnwys:

Adnoddau

Llinell Gymorth Rhieni YoungMinds

• Ffoniwch am ddim 0808 802 5544 (Llun-Gwener 9:30 – 16:00).

•Ar gael yn Lloegr, yr Alban Cymru a Gogledd Iwerddon

The Mix

•Llinell gymorth gyfrinachol, e-bost, we-sgwrs a gwasanaeth cwnsela dros y ffôn i bobl ifanc o dan 25 oed.

•Rhadffôn: 0808 808 4994 (bob dydd rhwng 13:00-23:00)

Taflen – “Autism Speaks Internet Safety, Social Networking, and Technology” https://www.autismspeaks.org/docs/family_services_docs/transition/Internet.pdf

Cerebra http://parentsprotect.co.uk/files/learning_disabilities_autism_internet_safety_parent_guide.pdf

Trafodaethau chwarae rôl am ddiogelwch ar y rhyngrwyd www.safesurfingkids.com/lesson_plans_grades_3_12.htm

Social Safety: Canllaw Rhwydweithio Cymdeithasol Ar-lein ar gyfer Rhieni ac Athrawon Oedolion Ifanc ag Anableddau Gwybyddol https://socialsafety.wordpress.com/stranger-danger/educationalopportunities/

Childnet International www.childnet-int.org Mae Childnet International yn sefydliad nid er elw sy’n gweithio gydag eraill i helpu i wneud y Rhyngrwyd yn amgylchedd cadarnhaol a diogel i blant.

Internet Matters www.internetmatters.org Porth ar y rhyngrwyd sy’n ceisio cyfeirio rhieni a gofalwyr at wybodaeth gredadwy am sut i gadw plant yn ddiogel ar-lein.

www.chatdanger.com Gwefan sy’n ymwneud â pheryglon posibl gwasanaethau rhyngweithiol ar-lein megis sgwrsio, negeseuon gwib, gemau ar-lein, e-bost ac ar ffonau symudol.

Kid Smart www.kidsmart.org.uk Dysgu plant ac oedolion am y rhyngrwyd a bod yn syrffiwr clyfar

Parentline Plus www.parentlineplus.org.uk Llinell Gymorth: 0808 800 2222 Mae Parentline Plus yn elusen genedlaethol sy’n gweithio ar ran rhieni a gyda rhieni. Mae’n cynnig cymorth a chefnogaeth drwy ystod arloesol o wasanaethau am ddim sy’n hyblyg ac ymatebol – wedi’u llunio gan rieni i rieni.