Addysg Rhyw ac Iechyd

Yn ôl dymuniad y rhieni nid yw Addysg Ryw yn cael ei dysgu yn bynciol yn yr ysgol, ond yn hytrach fel rhan o’n gwaith tymhorol drwy ystod eang o themâu e.e. “Myfi Fy Hun” neu pan fydd sefyllfa addas yn codi.

Fe anogir athrawon i ateb cwestiynau’r plant yn agored ac yn onest gan ddefnyddio barn broffesiynol er mwyn cyfateb yr ateb gydag oed, aeddfedrwydd a dealltwriaeth y plentyn.

Lle bod cwestiynau yn codi y mae’n ddyletswydd ar yr athrawon i’w hateb yn y ffordd a ddisgrifiwyd uchod.

Yn ogystal bydd nyrs yr ysgol yn siarad gyda phlant Blwyddyn 6 am newidiadau’r corff a blaenlencyndod ac yn ateb eu cwestiynau.

Gall rhieni eithrio eu plentyn/plant o ran neu’r cyfan o wersi addysg rhyw nad yw’n gynwysedig yn y Cwricwlwm Cenedlaethol.