Adroddiad at Rhieni

Cyflwynir adroddiad ysgol a fydd yn cynnwys sylwadau ar waith, datblygiad ac ymddygiad y plentyn i’r rhieni pan ddônt i wythnos agored a gynhelir tua diwedd pob blwyddyn academaidd.

Yn ogystal, rhoddir cyfle i’r rhieni i fynychu noson agored ar ddechrau’r flwyddyn academaidd tua mis Hydref ac yn nhymor y Gwanwyn.

MAE CROESO I RIENI DDOD I DRAFOD GWAITH Y PLANT UNRHYW BRYD YN YSTOD Y FLWYDDYN.