Anghenion Dysgu Ychwanegol

Bwriad y dudalen hon yw i’ch cynorthwyo gyda gwahanol agweddau o ADY, gan rannu dolenni defnyddiol at wefannau addas a gwybodaeth gan yr Awdurdod Addysg Lleol a Llywodraeth Cymru ynghylch y Cod ADY newydd yn 2021

Sicrheir fod y disgyblion sy’n profi anawsterau dysgu yn derbyn gwaith o fewn eu gallu a sylw oddi wrth yr athrawes anghenion arbennig. Bydd anghenion y plant yma a’r profion yn cael eu cadw yn gwbl gyfrinachol.

Rydym yn cefnogi’n gryf, hawl pob disgybl i gael cwricwlwm eang, cytbwys a pherthnasol gan gynnwys y Cwricwlwm Cenedlaethol ac addysg grefyddol.

Mewn rhai achosion bydd plant yn cael eu gweld gan seicolegydd addysg. Rhoddir gwybodaeth i’r rhieni am yr ymweliadau yma. Am fanylion pellach gweler polisi’r ysgol.

Anghenion Dysgu Ychwanegol Sir Gaerfyrddin

Awtistiaeth Cymru

Mae’r Cod ADY yn newid yn 2021. Dyma’r wybodaeth amdano.