Addysg Crefyddol

Cynhelir cyd-addoliad sydd wedi ei seilio ar werthoedd Cristnogol yn ddyddiol. Mae pob dosbarth yn ei dro yn gyfrifol am y cyd-addoliad.  Bydd y plant yn cymryd rhan flaenllaw yn y cyd-addoli yma sy’n cynnwys naill ai

  • storïau o’r Beibl,
  • datblygiadau moesol
  • neu hanes pobl ddylanwadol.

Yn y dosbarthiadau mae Addysg Grefyddol yn cael ei gynnwys yn rheolaidd fel rhan o’r thema er mwyn sicrhau bod y plant yn cael dealltwriaeth o’r ffydd Gristnogol ac o grefyddau eraill yn ogystal â lle crefydd yn y byd modern.

Os yw rhiant am eithrio’r plentyn o wasanaeth ysgol neu wersi Addysg Grefyddol rhaid iddo/iddi gael gair â’r Prifathro.