Blwyddyn 3

Williamsh285@hwbcymru.net

Ein thema yn ystod tymor y Gwanwyn ydy Hei Mistar Urdd. Edrychwn ymlaen at gystadlu yn Eisteddfod yr ysgol a’r Urdd. Ein prosiect ydy i greu gemwaith ar y thema cynefin.

Yn ein gwersi iaith, fe fyddwn yn cydweithio i gyfansoddi a pherfformio rap Mistar Urdd. Byddwn yn parhau gydag ymarferion Cynllun Clonc, yn dysgu am sefydliad yr Urdd ac yn ysgrifennu barddoniaeth ar y thema ‘enfys.’

Yn ein gwersi Mathemateg, fe fyddwn yn edrych ar werth lle, siâp, arwynebedd, datrys problemau a thymheredd.

Byddwn yn cynnal ymchwiliadau gwyddonol ac yn astudio anifeiliaid yn eu cynefinoedd.

Gofynnwn yn garedig i chi wrando ar eich plentyn yn darllen gan gofio trafod cynnwys y testun.