Bwlio

Nod yr ysgol yw y dylai pob plentyn deimlo’n ddiogel ac yn hapus.

Ni ddylai un plentyn gael ei fygwth naill ai’n gorfforol, yn emosiynol neu trwy eiriau.

Yn unol â pholisi’r ysgol anogir y plant i ddweud am unrhyw fygythiad o fwlio wrth oedolyn yn syth, ac fe gymerir y camau cryfaf posibl.

Ni chaniateir unrhyw fwlio yn yr ysgol. Os bydd angen fe gysylltir â’r rhieni.

Os oes gennych ofidion, cysyltwch â’r ysgol yn syth trwy e-bost admin@pontyberem.ysgolccc.cymru, neu ffôn ar 01269 870306.