Dosbarthiadau

Bydd 9 dosbarth yn yr ysgol:

Cyfnod Sylfaen

  • Dosbarth Derbyn 1
  • Dosbarth Derbyn 2
  • Blwyddyn  1
  • Blwyddyn  2

Cyfnod Allweddol 2

  • Blwyddyn  3
  • Blwyddyn  4
  • Blwyddyn  4
  • Blwyddyn  5
  • Blwyddyn  6

Ar adegau er mwyn osgoi gorlwytho dosbarthiadau, ac i sicrhau cyfartaledd athro disgybl teg bydd yn rhaid symud plant o un dosbarth i’r llall. Pwysleisir y gwneir hyn yn ôl oedran yn unig.

Addysgir y plant yn bennaf gan eu hathrawon dosbarth. Ar adegau bydd y dosbarthiadau yn uno ar gyfer e.e. gwasanaeth, cerddoriaeth, canu, gemau, teledu ac weithiau ar gyfer amser stori.

Addysgir y plant mewn dosbarthiadau gallu cymysg, a bydd yr athrawon yn paratoi gwaith addas ar gyfer eu gwahanol alluoedd.