Blwyddyn 1

Char-DaviR@hwbcymru.net

Ein sbardun y tymor yma ydy’r cynefin, gyda gweithgareddau’r Eisteddfod a Dydd Gŵyl Dewi yn ein helpu i ddeall beth yw i fod yn Gymro neu Gymraes. Bwriadwn ddysgu darnau llefaru a chanu er mwyn yr eisteddfod ysgol ac eisteddfod yr Urdd. Byddwn yn parhau i ymarfer sgiliau tric a chlic yn ogystal ag ysgrifennu’n ffeithiol a chyfarwyddiadau. Bydd y chwarae rôl yn seiliedig ar ymarfer yr eisteddfod a chaffi Mr Urdd. Byddwn yn dysgu am Shabbat a phwysigrwydd y diwrnod i’r Iddewon. Awn ati osod wyau yn y deorydd ac arsylwi ar eu datblygiad gan obeithio am gywion bach ar ddiwedd y cyfnod.

Bydd y mathemateg yn canolbwyntio ar rif, gwerth rhif, arian, ffracsiynau a data. Defnyddiwn y sgiliau yma i ddatrys problemau amrywiol. Bydd gwersi celf yn canolbwyntio ar dynnu llun cynefin a’i hargraffi ar sidan. Byddwn yn mynd ar daith i draeth Llansteffan ac i amgueddfa Abergwili i weld y darlun a chafwyd ei baentio gan Rembrandt yn 1635.

Dyma ap Tric a Chlic a Scratch Junior (am ddim) i chi lawrlwytho a defnyddio adref.

Dyma linc i wefan Hwb. Bydd pob plentyn yn derbyn cyfrinair i fynd adref. Rydyn yn defnyddio Just 2 Easy – JIT i ddysgu sgiliau codio, creu lluniau, animeiddio ayyb.