Trefniadaeth Yr Ysgol

MATH O YSGOL

Mae Pontyberem yn ysgol Categori 1  sydd â thua 250 o blant. Mae’r rhif yma yn disgyn ym mis Medi, ond yn codi yn Ionawr ac Ebrill pan dderbynnir plant newydd i’r ysgol. Cymraeg yw prif gyfrwng yr ysgol o ddydd i ddydd.

Ar hyn o bryd derbynnir plant y tymor maen nhw yn bedair blwydd oed – yn unol â pholisi’r Sir. Yr oedran statudol i ddechrau ysgol yw 5 mlwydd oed.

CYTUNDEB YSGOL/CARTREF

Mae cyfraniad y rhieni i sicrhau’r addysg orau bosibl o’r pwys pennaf.

Credwn mewn cydweithio mewn partneriaeth gyda rhieni i ymgyrraedd at y gorau i’r plant.

Dyna pam y gofynnir i rieni newydd i arwyddo cytundeb ysgol/cartref pan fydd eu plentyn yn dechrau yn yr ysgol.

NEWID CYFEIRIAD/RHIF FFÔN

Mae’n bwysig bod rhieni’n hysbysu’r ysgol o unrhyw newid mewn rhif ffôn neu gyfeiriad.