EvansN141@hwbcymru.net
Ein sbardun y tymor yma ydy’r cynefin, gyda gweithgareddau’r Eisteddfod a Dydd Gwyl Dewi yn ein helpu i ddeall beth yw i fod yn Gymro neu Gymraes. Bwriadwn dysgu darnau llefaru a chanu er mwyn yr eisteddfod ysgol ac eisteddfod yr Urdd. Byddwn yn datblygu sgiliau o ysgrifennu disgrifiadol, ffeithiol a chyfarwyddiadau. Bydd y chwarae rol yn seiliedig ar ymarfer yr eisteddfod. Byddwn yn creu bara ar gyfer Shabbat a dysgu am bwysicrwydd y diwrnod i’r Iddewon. Dysgwn am gynefin anifeiliaid lleol ac anifeiliaid y byd gan eu lleoli ar fap o’r byd a thrafod eu cynefin.
Bydd y mathemateg yn canolbwyntio ar rhif, gwerth rhif, lluosi, ffracsiynau a data. Byddwn yn datrys problemau ffracsiynau a data. Bydd gwersi celf yn canolbwyntio ar baentio llun o anifail ar fap, a chreu crwban allan o glai. Byddwn yn ymweld a busnes lleol ac hefyd mynd ar daith i draeth Llansteffan ac i amgueddfa Abergwili i weld y darlun a chafwyd ei baentio gan Rembrandt yn 1635.
Dyma ap Tric a Chlic a Scratch Junior (am ddim) i chi lawrlwytho a defnyddio adref.
Dyma linc i wefan Hwb. Bydd pob plentyn yn derbyn cyfrinair i fynd adref. Rydyn yn defnyddio Just 2 Easy – JIT i ddysgu sgiliau codio, creu lluniau, animeiddio ayyb.