Cynhelir cyd-addoliad sydd wedi ei seilio ar werthoedd Cristnogol yn ddyddiol. Mae pob dosbarth yn ei dro yn gyfrifol am y cyd-addoliad. Bydd y plant yn cymryd rhan flaenllaw yn y cyd-addoli yma sy’n cynnwys naill ai
- storïau o’r Beibl,
- datblygiadau moesol
- neu hanes pobl ddylanwadol.
Yn y dosbarthiadau mae Addysg Grefyddol yn cael ei gynnwys yn rheolaidd fel rhan o’r thema er mwyn sicrhau bod y plant yn cael dealltwriaeth o’r ffydd Gristnogol ac o grefyddau eraill yn ogystal â lle crefydd yn y byd modern.
Os yw rhiant am eithrio’r plentyn o wasanaeth ysgol neu wersi Addysg Grefyddol rhaid iddo/iddi gael gair â’r Prifathro.