Yr Ysgol

Agorwyd yr ysgol bresennol ym Mhontyberem ym Mis Medi 1984 pan gaewyd yr ysgol Fabanod yn Heol Llannon a’r ysgol Iau ar sgwâr y pentref. Cyn iddi gael ei sefydlu yn ysgol Gynradd yn 1984, ysgol Uwchradd Fodern ydoedd, a ddaeth yn wag yn dilyn ad-drefnu Uwchradd yng Nghwm Gwendraeth.

Ers y dyddiau cynnar mae’r ysgol wedi sefydlu ei hunan a thyfu i fod yn sefydliad teilwng sydd â rhan allweddol yn y gymdeithas. O ganlyniad i ymweliadau gan nifer fawr o swyddogion ac ymwelwyr, mae’r ysgol dros y blynyddoedd wedi derbyn llawer o glod a chanmoliaeth.

Cafodd yr ysgol bedwar arolwg cyffredinol gan Arolygwyr Ei Mawrhydi. Ym mis Ionawr 1990 dywedwyd: “Mae’r ysgol yn gymuned sy’n gweithio’n gydwybodol. Addysgir y disgyblion mewn amgylchedd cynnes a diogel. Manteisir yn dda ar gyfleusterau digon ffafriol i roi amrediad boddhaol o brofiadau dysgu. Gosodwyd seiliau cadarn o ran datblygu cwricwlwm eang a chytbwys ac ymestyn defnydd y disgyblion ar y ddwy iaith fel cyfryngau cyfathrebu effeithlon. Llwydda’r ysgol i ddenu ymdrechion gorau’r disgyblion ac ar y cyfan maent yn cyrraedd safonau da yn unol â’u gallu.”

Ac yn Hydref 1996 roedd yr adroddiad yr un mor ffafriol a chanmoladwy gan Arolygwyr Ei Mawrhydi. Dywedwyd: “Mae hon yn ysgol dda. Mae cyflwyniadau disgyblion ym mhob un o bynciau craidd a sawl un o bynciau sylfaen y CC yn CA1 a CA2 yn dda ac yn dda iawn mewn rhai agweddau. Mae ansawdd y ddarpariaeth yn dda.

Mae nifer o gryfderau mewn addysgu ar draws yr ysgol yn gyffredinol. Nodweddir gwersi gan berthynas dda rhwng athrawon a disgyblion a rhwng disgyblion â’i gilydd. Mae strwythur da i wersi ac yn y mwyafrif o achosion, mae iddynt gydbwysedd da o weithgareddau dosbarth a grŵp. Mae disgyblion yn elwa o ystod dda o brofiadau diddorol ac ysgogiadol, y defnydd o amrywiaeth ac ystod o adnoddau a chefnogaeth dda. Mae gan yr ysgol ethos da. Seilir ei nodau ar egwyddorion cadarn ac amlygir eu gweithrediad effeithiol yn ei bywyd a’r gwaith bob dydd. Mae’r cyfraniad mae’n ei wneud i ddatblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion yn dda. Ceir pwyslais arbennig o gryf ar sawl agwedd o etifeddiaeth a thraddodiadau Cymru”

Cafwyd arolwg llwyddiannus arall yn Hydref 2002, dywedwyd: “Mae hon yn ysgol dda gyda nodweddion da iawn. Mae’r ddarpariaeth gwricwlaidd yn gyfoethog ac mae pawb sy’n ymwneud a’r ysgol yn rhan o gymuned hapus a gofalgar. Mae’r addysgu da a da iawn yn un o gryfderau’r ysgol. Mae safonau cyflawniad y disgyblion yn dda ar draws y cwricwlwm. Arweinir yr ysgol yn dda iawn gan bennaeth sy’n cynnig cyfeiriad pendant ac ymdeimlad eglur o bwrpas. Mae datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion yn dda iawn. Mae’r disgyblion yn gweithio’n dda gyda’i gilydd ac mae safonau ymddygiad yn dda iawn. Mae’r staff yn cynnig canmoliaeth ac anogaeth gyson ac mae’r berthynas sydd rhyngddynt a’r disgyblion yn dda iawn. Mae ansawdd yr amgylchedd dysgu i’r disgyblion o safon uchel.”

Yn ystod ein arolwg diweddaraf yn Nhachwedd 2008 barnwyd: “Mae Ysgol Gynradd Pontyberem yn ysgol dda gyda nodweddion rhagorol. Mae’r arweinyddiaeth, y cynnydd a wna’r disgyblion, eu hymddygiad, y ddarpariaeth ar gyfer addysg bersonol a chymdeithasol a phartneriaethau gyda darparwyr eraill a’r gymuned yn nodweddion rhagorol.”