CWRICWLWM NEWYDD I GYMRU
Dyma gyfnod cyffrous i bobl ifanc Cymru. Mae Cwricwlwm newydd i Gymru ar y gweill fydd yn ennyn brwdfrydedd dysgwyr o 3 i 16, gan roi iddynt y sylfaen sydd ei angen i lwyddo mewn byd sy’n newid.
MAE ADDYSG YNG NGHYMRU YN NEWID
O 2022, bydd cwricwlwm newydd. Cynlluniwyd gan athrawon. Adeiladwyd ar gyfer plant. Crewyd ar gyfer byd sydd yn newid yn gyflym. Yn rhoi ymwybyddiaeth, sgiliau a phrofiadau sydd angen er mwyn llwyddo yn y dyfodol.
CWRICWLWM NEWYDD I GYMRU:
Ar 22 Hydref 2015, cyhoeddodd Gweinidog Addysg a Sgiliau Cwricwlwm i Gymru, cwricwlwm am oes, sef cynllun i fwrw ymlaen â’r argymhellion a bennwyd gan yr Athro Graham Donaldson yn ei adroddiad Dyfodol Llwyddiannus.
Mae’r cynllun yn amlinellu sut y byddwn yn datblygu ein cwricwlwm newydd, sy’n eang, cytbwys, cynhwysfawr a heriol, gyda’n gilydd. Ac wrth wraidd y cwricwlwm y mae’r pedwar diben, sy’n rhoi’r cyfle i bob plentyn a pherson ifanc ddatblygu i fod:
- yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;
- yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith;
- yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd;
- yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
ELFENNAU ALLWEDDOL:
BYDD Y CWRICWLWM NEWYDD YN CYNNWYS:
• 6 Maes Dysgu a Phrofiad 3-16
• 3 cyfrifoldeb traws-gwricwlaidd: llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol
• camau dilyniant yn 5 oed, 8, 11, 14 ac 16
• deilliannau cyrhaeddiad sy’n disgrifio llwyddiannau disgwyliedig ar bob cam dilyniant.
Bydd y cwricwlwm yn cael ei drefnu yn i 6 Maes Dysgu a Phrofiad:
• Celfyddydau mynegiannol
• Iechyd a lles
• Dyniaethau (gan gynnwys Addysg Grefyddol ddylai aros yn orfodol i 16 oed)
• Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu (gan gynnwys ieithoedd tramor modern yng
Nghymru, a ddylai aros yn orfodol i 16 oed, a)
• Mathemateg a rhifedd
• Gwyddoniaeth a thechnoleg (yn cynnwys cyfrifiadureg).