Rydym yn monitro’r uchod o ddydd i ddydd a sicrhawn fynediad i’r anabl trwy brif fynedfa’r ysgol. Mae gennym gynllun cynhwysfawr sy’n sicrhau fod pob unigolyn yn cael mynediad a’i drin gyda’r un parch a chynnig yr un cyfleoedd. Mae’r Cynllun Cydraddoldeb i Bobl Anabl yn nodi ein hagwedd tuag at hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl ymhob agwedd o fywyd ein hysgol.
Ein bwriad yw cynnwys:
- Plant a phobl ifanc anabl a’u rhieni a gofalwyr.
- Staff Anabl.
- Aelodau anabl o’r gymuned ehangach, o’r cychwyn.
Mae ein Cynllun Cydraddoldeb i Bobl Anabl yn cynnwys holl agweddau anabledd p’un ai fod hyn mewn perthynas â: –
- Disgyblion a’u rhieni a gofalwyr
- Staff
- Aelodau o gymuned ehangach yr ysgol
Mae ein dealltwriaeth o anabledd fel y cyflwynwyd gan y Comisiwn Hawliau Anabledd:
“Mae person yn anabl os oes ganddynt gyflwr meddygol neu gorfforol sydd ag effaith hirdymor neu ddifrifol ar eu gallu i gwblhau gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.”