DIOGELWCH YN YSTOD AMSER YSGOL
Sicrhawn fod ein hysgol yn fangre diogel i’n disgyblion a’n staff yn ystod amser ysgol. Bydd pob drws allanol yr adeilad dan glo yn ychwanegol i gatiau’r ysgol yn ystod y diwrnod.
Er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch pob unigolyn tra yn yr adeilad disgwylir i bawb ddilyn rheolau’r ysgol.
Nid ydym yn caniatáu ysmygu ar safle’r ysgol ar unrhyw adeg. Gofynnir i ymwelwyr barcio ym maes parcio’r ysgol.
GOFAL BUGEILIOL
Mae’r athrawesau dosbarth yn gyfrifol am gadw golwg ar unrhyw broblemau corfforol neu emosiynol a gwyd ymhlith disgyblion unigol gan geisio eu datrys.
Cedwir cysylltiad agos rhwng y prifathro a’r staff ymhob achos. GOFYNNIR I’R RHIENI I GYSYLLTU Â’R PENNAETH AR UNWAITH OS OES PROBLEM GAN EU PLENTYN.
Cymerir pob gofal i sicrhau diogelwch y plant ond os fydd y plentyn yn dost neu wedi cael damwain yna hysbysir y rhieni cyn gynted ag sydd bosibl.
Felly mae’n bwysig bod gennym o leiaf 2 rif ffôn ble gallwn gysylltu â rhiant neu deulu/perthnasau/ffrindiau agos.