EdwardsR262@hwbcymru.net
Ein thema yn nhymor y Gwanwyn yw Hei Mistar Urdd. Byddwn yn dysgu am hanes yr Urdd a’r Eisteddfod ac yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn ein Heisteddfod ysgol. Bydd y dosbarth yn gweithio ar brosiect, yn seiliedig ar gystadleuaeth Eisteddfod yr Urdd i greu gwefan. Edrychwn ymlaen at gyfuno gwaith y dosbarth gyda’r cyfleoedd artistig mynegiannol sy’n codi o’n prosiect gyda’r Urdd. Yn ein gwersi mathemateg byddwn yn canolbwyntio ar adio a thynnu, lluosi a rhannu, rheoli arian a siâp. Byddwn yn astudio golau a sain yn ein gwersi gwyddoniaeth ac yn mabwysiadu cynllun Cynllun Clonc, lle byddwn yn ymarfer cystrawennau iaith. Yn ein gwers iaith byddwn yn ysgrifennu stori, erthygl papur newydd, llythyr personol a dwyn i gof. Cawn gyfle i ddysgu am wledydd y byd a datblygu ein sgiliau digidol yn ddiweddarach yn y mis wrth i ni edrych ar gynnydd Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Gofynnwn yn garedig i chi wrando ar eich plentyn yn darllen gan gofio trafod cynnwys y testun.
Mae pob plentyn wedi derbyn eu henw defnyddiwr a chyfrinair i HWB, Sumdog a TTRockstars.