APWYNTIADAU
Os bydd gan blentyn apwyntiad gyda’r deintydd, doctor neu’r ysbyty, gofynnir i’r rhieni roi gwybodaeth i’r athrawes ddosbarth o flaen llaw (Disgwylir i’r plentyn ddod nôl ar ôl yr apwyntiad). Ni roddir caniatâd i blentyn adael tir yr ysgol yn ystod oriau ysgol, ar wahân i gadw apwyntiad neu ar ddymuniad y rhieni.
MODDION
Ni ddylai plentyn ddod â moddion na thabledi o unrhyw fath i’r ysgol. Er hynny, os oes problem feddygol gan blentyn dylai’r rhieni gael gair â’r pennaeth.