Year 6

PriceC160@hwbcymru.net

ThomasS337@hwbcymru.net

Yn ystod tymor y Gwanwyn byddwn yn canolbwyntio ar y Cwricwlwm Cymreig a’r Celfyddydau Mynegiannol wrth ddilyn thema ‘Hei Mr Urdd.’ Caiff y plant gyfle i ddysgu am Santes Dwynwen a datblgu eu sgiliau creadigol wrth ddylunio carden ddigidol a dylunio a dysgu ffeithiau am y lwy garu. Byddwn yn tynnu sylw’r disgyblion at awduron, idiomau a bandiau Cymreig yn wythnosol ac yn dathlu Dydd Miwsig Cymru. Cyfrifoldeb Bl6 fydd i drefnu gorymdaith ysgol gyfan a chyflwyno araith i gyhoeddi eisteddfod Gwyl Ddewi’r ysgol. Byddant yn cael y cyfle i arwain ac hyfforddi eu timoedd yn ogystal a dewis beirniaid, cynllunio posteri, tystysgrifau a threfn y dydd. Yn ein gwersi gwyddoniaeth byddwn yn astudio ‘Sain’ ac yn herio’r disgyblion i gynllunio system ffôn a theclyn rhybudd. Uchafbwynt y tymor fydd ein taith i Langrannog lle caiff y disgyblion brofiadau gwych o gydweithio fel tîm wrth ddatblygu sgiliau amrywiol a chymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.

Gofynnwn yn garedig i chi ddarllen gyda’ch plentyn yn gyson a thrafod cynnwys y llyfrau.

Dyma linciau i wefan HWB a Sumdog.