Ysgol Pontyberem

	
		
	
	
	

“Creu’r wên, caru’r iaith”

Ein Gwelediagaeth

Yn Ysgol Pontyberem sicrhawn awyrgylch hapus, croesawgar, Cymreig ac ymestynnwn bob unigolyn i lwyddo ac i gyrraedd ei lawn botensial.

Ein Hysgol

Lleolir Ysgol Gynradd Pontyberem yng Nghwm Gwendraeth a rhwng trefi Llanelli a Chaerfyrddin. Agorwyd yr ysgol bresennol ym Mhontyberem ym mis Medi 1984 pan gaewyd yr ysgol Fabanod yn Heol Llannon a’r ysgol Iau ar sgwar y pentref. Cyn iddi gael ei sefydlu yn ysgol Gynradd yn 1984, ysgol Uwchradd Fodern ydoedd. Ar yr 8fed o Orffennaf, 2019, ail-agorwyd yr ysgol ar ei newydd wedd yn dilyn buddsoddiad gan Gyngor Sir Gar a Chynulliad Cymru.

Mae Pontyberem yn ysgol Gymraeg sydd â thua 250 o blant. Cynigwn feysydd chwarae enfawr, caeau rygbi a phêl-droed, cyrtiau tenis/pêl-rwyd ac adnoddau hael yn ein dosbarthiadau er mwyn cefnogi addysg gyflawn i bob unigolyn yma ym Mhontyberem.


Nodau Ein Hysgol

Mae’r ysgol mewn bodolaeth i helpu’r plant i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd yn angenrheidiol i ddod yn aelodau cyfrifol o gymdeithas newidiol, o fewn awyrgylch hapus, diogel a pharchus, sydd yn hybu cynnydd drwy raddau plentyndod. Ein nodau yw cefnogi ein dysgwyr i ddod yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
  • gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas